Roald Dahl – Dychmygwch!

Mar 23, 2016 by admin_atom Category: Newyddion 0 comments

Dros gyfnod y Pasg, bydd cwmni theatre i blant Mewn Cymeriad/In Character, mewn partneriaeth â chanolfan Yr ATOM, yn llwyfannu sioe arbennig, wedi’i anelu at blant oed 6 – 11, i ddathlu gwaith y storïwr byd-enwog, Roald Dahl. Mae’r sioe yn rhan o ddathliadau swyddogol canmlwyddiant yr awdur yng Nghymru, ac mae wedi’i chomisiynu yn arbennig gan Gyngor Llyfrau Cymru.