Dyma ganolfan ddiwylliannol, fywiog yng nghanol tref Caerfyrddin sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau ac adnoddau. Ers iddo agor fis Awst, mae Caffi’r Atom eisoes yn hynod o boblogaidd ac yn cynnig brecwast a chinio blasus. Yn enwog am ei ysgytlaeth a siocled poeth anferthol, mae’r caffi ar agor o 9 tan 16:30, dydd Llun i ddydd Sadwrn.