top of page

Cylch Meithrin Myrddin

Yr Atom

18 Stryd y Brenin, 

Caerfyrddin

SA31 1BN

​

  • Facebook
  • Twitter

Gwybodaeth

Rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant ac felly’n ceisio darparu’r safon aur mewn profiadau blynyddoedd cynnar i bob plentyn yn ein gofal.
Rydym yn credu fod gan pob plentyn yng Nghymru yr hawl i Addysg Gymraeg. Trwy’r ddod i’n grŵp a derbyn cefnogaeth sydd ar gael mae modd i’ch plentyn ddilyn taith esmwyth a hyderus i addysg Gymraeg.

Fel rhiant, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, ac felly bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg gorau yn ein Cylch Meithrin ni. Cymraeg yw’r iaith yn ein Cylch Meithrin ond rydym yn rhoi croeso cynnes i bob plentyn, dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref.

Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y cylch neu am wybodaeth ynglyn â chofrestru eich plentyn mae croeso i chi gysylltu â ni.

​

Cylch Meithrin Myrddin

Dydd llun - Dydd Gwener   09.00 - 11.30

bottom of page

Subscribe

* indicates required