top of page

Apwyntio Rheolydd newydd yn Yr Atom

Caryl Jones o Faesybont, Cwm Gwendraeth yw Rheolydd newydd Yr Atom, sef Canolfan Gymraeg tref Caerfyrddin.

Graddiodd Caryl o Brifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant yn 2017 gyda gradd mewn BA Addysg Gynradd gyda SAC. Yn ystod ei blwyddyn olaf yn y brifysgol bu Caryl yn Drysorydd ar y Gymdeithas Gymraeg, a hi hefyd oedd enillydd Gwobr Norah Isaac am ei chyfraniad i fywyd Cymraeg yn y Brifysgol. Mae’n addas iawn felly ei bod yn dychwelyd i’r Brifysgol fel Rheolydd Yr Atom a bydd yn sicr o arwain cyfraniad egnïol y ganolfan tuag at Gymreictod tref Caerfyrddin.


Ers graddio, mae Caryl wedi bod yn gweithio fel athrawes mewn amryw o ysgolion yn sir Gâr, a hefyd wedi bod yn dysgu Cymraeg i blant yn Ysgol y Gaiman ym Mhatagonia, cyn dychwelyd i Gymru i weithio fel Swyddog Cymunedol i Fenter Castell Nedd Port Talbot.

Wrth gychwyn yn ei rôl newydd yn yr Atom, dywedodd Caryl:


"Mae’n fraint i gael fy mhenodi yn Rheolydd Yr Atom. Dw i’n edrych ymlaen at ddatblygu ar y sylfaen arbennig sydd wedi cael ei greu yma yn barod, a sicrhau fod Yr Atom yn llawn bwrlwm drwy gydol y flwyddyn. Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio gyda phartneriaid a chreu cysylltiadau newydd er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg ar draws tref Caerfyrddin. Yn ogystal, meddwl a chynllunio cyfleoedd euraidd i blant, pobl ifanc a myfyrwyr Caerfyrddin.”

Yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer cynnal gweithgareddau i bob oed, a gwersi Cymraeg fel rhan o arlwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn nhref Caerfyrddin, mae Yr Atom hefyd yn gartref i nifer o sefydliadau a grwpiau cymunedol, megis Menter Gorllewin Sir Gâr; Menter a Busnes, Cylch Meithrin Myrddin a Merched y Wawr. Mae nifer o fusnesau lleol hefyd yn denantiaid yn y ganolfan erbyn hyn megis Esgidiau CiC ac Arwerthwyr tai Evans Bros ar Stryd y Brenin.


“Mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at groesawu Caryl i’w rôl newydd fel Rheolydd Yr Atom,”

meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Caerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a'r sawl a fu’n arwain ar y gwaith o sefydlu’r ganolfan ar Stryd y Brenin yn 2015.

“Fel cyn-fyfyriwr a chyn enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac y Brifysgol, mae brwdfrydedd Caryl dros y Gymraeg yn heintus. Rydym yn edrych ymlaen at weld ei gweledigaeth yn cael ei gwireddu, a thrwy hynny gryfhau sefyllfa’r Gymraeg yn nhref Caerfyrddin.”

Nododd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C yr Egin, sydd â chyfrifoldeb strategol a gweithredol dros Yr Atom:


“Mae gan Caryl adnabyddiaeth wych o fyd addysg, maes hyrwyddo’r Gymraeg a Sir Gâr, cyfuniad delfrydol er mwyn arwain datblygiad Yr Atom dros y cyfnod nesa yma. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio â hi er mwyn sicrhau bod y ganolfan yn darparu amodau ffafriol ar gyfer twf yr iaith ac yn cyfrannu’n effeithiol at gyrraedd y miliwn o siaradwyr.”
bottom of page

Subscribe

* indicates required