Cafwyd Diwrnod i'r Brenin yma yn Yr Atom ar ddydd Mercher yr 22ain o Chwefror. Daeth dros 140 o blant a rhieni yma drwy gydol y dydd i fwynhau ein gweithgareddau celf a chrefft, cystadleuaeth fflipio pancws a gêm rygbi.
Yn ystod y dydd cafwyd sesiynau arbennig gan yr actores Lowri Siôn, PS Parties ac Heini a phawb wedi mwynhau dawnsio, canu a chwarae gemau. Diolch yn fawr i Lynwen o Gymraeg i Blant am ymuno gyda ni a gwneud amser canu gyda’r plant.
Llongyfarchiadau mawr i William am ennill y gystadleuaeth Fflipio Panws, ac i Thea am ennill y gêm rygbi gyda’r sgôr uchaf o 150 pwynt!
Roedd yn hyfryd i gydweithio gyda Chylch Meithrin Myrddin a Menter Gorllewin Sir Gâr ar y diwrnod yma a braf oedd cynnig cyfle i blant i fwynhau gweithgareddau a sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod hanner tymor!
Diolch i bawb am ddod ac edrychwm ymlaen i'n digwyddiad nesaf!
Comments