top of page

Sesiwn Goginio gyda Cegin Mr Henry

Cafwyd bore ffantastic yng nghwmni Lloyd o Gegin Mr Henry bore dydd Mawrth y 4ydd o Ebrill. Cafodd 30 o blant y cyfle i ddatblygu ei sgiliau coginio a chreu byns pizza a chacennau caws Pasg. Roedd pawb wedi mwynhau mas draw ac yn dweud fod y bwyd yn blasus tu hwnt. Mae Lloyd Henry newydd lansio llyfr newydd ‘Cegin Mr Henry’ sy’n llawn ryseitiau amrywiol ac addas i'r teulu cyfan, roedd y plant methu aros i fynd adref i goginio fwy o brydau blasus.

Gallwch brynu llyfr Cegin Mr Henry yma - Cegin Mr Henry | Atebol


Cadwch lygad am fwy o sesiynau coginio yn y dyfodol!


bottom of page

Subscribe

* indicates required