top of page

Stori, Symud a Chwarae Anniben

Yn dilyn llwyddiant sesiynau stori a chwarae anniben blaenorol, penderfynom gydweithio gyda Menter Gorllewin Sir Gâr, Canolfan S4C Yr Egin a Cymraeg i Blant i drefnu sesiwn arall.


Ymunodd dros 60 o fabanod, plant ac oedolion gyda ni i fwynhau amser stori gyda’r adnabyddus Lowri Siôn o Ganolfan S4C Yr Egin, sesiwn ganu gyda Lynwen o Cymraeg i Blant a Chwarae Anniben gyda ni a Menter Gorllewin Sir Gâr.


Roedd y plant wrth ei bodd, ac roedd hi’n hyfryd i weld y plant yn mwynhau ynghanol y grawnfwyd, reis a’r ceir bach, wrth i ni lunio gweithgareddau ar y thema Dydd Gŵyl Dewi a’r Gwanwyn.


Cadwch lygad allan am sesiwn arall cyn hir!



コメント


bottom of page