Stori, Symud a Chwarae Anniben
CROESO ATOM NI!
CANOLFAN GYMRAEG CAERFYRDDIN
​
18 STRYD Y BRENIN, CAERFYRDDIN, SA31 1BH
01267 225 131 | HELO@YRATOM.CYMRU
AMDANOM NI
Canolfan Gymraeg Tref Caerfyrddin yw'r Atom. Mae croeso i chi alw heibio am glonc, cymryd rhan mewn gweithgaredd, llogi stafell ar gyfer cyfarfod a digwyddiad neu ymweld â'n tenantiaid.
Agorwyd Yr Atom yn swyddogol ym mis Hydref 2015 wedi i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant brynu’r adeilad gyda chefnogaeth grant o Gronfa Fuddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru, er mwyn sefydlu Canolfan Gymraeg yng nghanol tref Caerfyrddin.  Aeth y brifysgol ati i fuddsoddi ymhellach a datblygu’r adeilad i gynnwys caffi ac amryw ystafelloedd er mwyn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, hamdden a busnes ar gyfer y gymuned gyfan. 
Mewn partneriaeth â’r Cyngor Sir, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Menter Gorllewin Sir Gâr, mae Canolfan yr Atom yn gweithio’n agos gyda’r gymuned fusnes leol, grwpiau a mudiadau lleol i ddarparu rhaglen o gyrsiau iaith yn ogystal â nifer fawr o weithgareddau hamdden a chymdeithasol. 
NEWYDDION
Y newyddion diweddaraf am yr Atom!
BETH SY' MLAEN?
Mae’r Atom yn trefnu ac yn cefnogi nifer o ddigwyddiadau ar draws y flwyddyn.
Dyma beth sydd ymlaen yn Yr Atom, gyda’n partneriaid ac yn yr ardal leol dros y misoedd nesaf.
EIN CYMUNED
Yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer cynnal gweithgareddau mae Yr Atom hefyd yn gartref i nifer o sefydliadau.
YSTAFELLOEDD I'W LLOGI
Mae gan Yr Atom amryw o ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd, dysgu ac hyfforddi a chymdeithasu. Mae Wi-Fi am ddim ar gael i’w ddefnyddio trwy’r ganolfan, a gellir darparu lluniaeth drwy Caffi’r Atom.